Cynnig ar gyfer Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig

New Hedges, Sir Benfro

 

Rhif cyfeirnod: P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

 

Cyflwynwyd deiseb i'r Bwyllgor Deisebau'r Cynulliad o'r enw 'Cartref Nyrsio Brooklands'. 

 

Lluniwyd y ddogfen briffio hon gan Gyngor Sir Penfro sy'n cynnig gosod Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig newydd ger New Hedges, a'r bwriad yw rhoi dealltwriaeth i chi o gefndir y cynigion hyn.

 

Y Safle Amwynder Dinesig Presennol

Mae safle amwynder dinesig presennol De Ddwyrain Sir Benfro yn Y Salterns, Dinbych-y-pysgod yn fach, mae prinder lle ac mae'n anodd ei gyrraedd, yn enwedig ar gyfer pobl â phroblemau symudedd.  Dim ond tua 60% o'r gwastraff a ddaw yno y gellir ei ailgylchu, lle mae’r rhan fwyaf o’r cyfleusterau eraill o'r math hwn yn y Sir yn ailgylchu mwy na 70%. Felly, nid yw bellach yn addas i'r diben ac nid oes lle i ehangu ac o ganlyniad mae angen dod o hyd i safle arall.

 

Y Broses o Ddewis Safle

Gwnaed proses dewis safle trwyadl er mwyn dod o hyd i safle arall.  Nododd Cyngor Sir Penfro nifer o feini prawf ar gyfer y broses o ddewis safle.  Roedd y meini prawf yn cynnwys:

-       Safle mwy o faint na'r cyfleuster presennol yn Y Salterns, Dinbych-y-pysgod, er mwyn cael lle i wahanu ffrydiau gwastraff gwahanol

-       Safle maint digonol a fyddai’n caniatáu lle digonol er mwyn gwahanu'r cyhoedd wrth weithgareddau gweithredol, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a chaniatáu i’r cyhoedd ddefnyddio'r safle yn ystod gweithgareddau gweithredol

-       Safle sy'n cynnig y gallu i ddatblygu cyfleuster modern sy'n gallu ateb gofynion cyfredol a gofynion yn y dyfodol

-       Safle sy'n hawdd ei gyrraedd a chanddo gysylltiadau trafnidiaeth da

-       Safle fydd wedi'i leoli i'r Gogledd o'r safle cyfredol yn ddelfrydol, ar goridor yr A478/A477, oherwydd bydd hyn gwasanaethu  cymunedau Saundersfoot, Cilgeti, Begelly ac Arberth yn well heb fod yn anfanteisiol i drigolion Dinbych-y-pysgod, tra'n lleihau nifer y cerbydau sy'n mynd i Ddinbych-y-pysgod.

-       Safle mewn lleoliad sy'n gweddu â lleoliadau’r safleoedd eraill ledled y sir (h.y. ddim yn rhy agos). Mae safleoedd eraill yn cynnwys: Waterloo (Doc Penfro); Hermon; Manorowen; Tyddewi; a Winsel a (Hwlffordd).

 

Gwnaed ymchwil fanwl dros nifer o flynyddoedd gan Gyngor Sir Penfro er mwyn nodi safle Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig posibl, yn lle’r cyfleuster presennol yn Ninbych-y-pysgod.

 

Safle Dewisol

Yn ystod y broses o ddewis safle, penderfynwyd yn erbyn nifer o’r safleoedd am nad oeddent yn bodloni'r meini prawf allweddol.  Fodd bynnag, ar ôl i asiant tir lleol gynnal trafodaethau gyda nifer o berchnogion tir yr ardal daeth safle yn New Hedges ar hyd yr A478 i'r amlwg. 

 

Mae manteision ffisegol a manteision o ran lleoliad i safle New Hedges, sy'n cynnwys:

-       Lleoliad sy'n ganolog i leoliadau poblog fel Penalun, Dinbych-y-pysgod, Cilgeti a Saundersfoot

-       Ffordd fynediad i’r A478 a safle sy’n cynnig llawr caled

-       Ffin o goed aeddfed sy’n creu sgrin effeithiol ar hyd yr A478 ac ar hyd perimedr gweddill y safle

-       Safle mwy o faint na'r cyfleuster presennol yn Ninbych-y-pysgod a fydd yn ei wneud yn bosibl gwahanu'r ffrydiau gwastraff gwahanol

-       Safle a fydd yn ei gwneud yn bosibl gwahanu'r cyhoedd oddi wrth y gweithgareddau gweithredol, gan sicrhau diogelwch y cyhoedd a chaniatáu i'r cyhoedd ddefnyddio'r cyfleuster yn ystod oriau gweithredol

-       Y cyfle i ddatblygu cyfleuster modern sy'n bodloni'r anghenion ailgylchu cyfredol a'r dyfodol

 

Dewiswyd y safle hwn yn New Hedges gan Gyngor Sir Penfro fel yr opsiwn gorau ar gyfer Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig newydd, ac mae'r Cyngor yn hyderus fod y mynediad delfrydol, i leihau yr effaith ar adeiladau gerllaw, a'i allu i gynnig yr ystod fwyaf eang posibl o opsiynau ailgylchu yn y Sir yn gwella cyfraddau ailgylchu'r ardal yn sylweddol.

 

Pryderon

Y prif bryderon sydd wedi dod i'r amlwg am y safle arfaethedig yn New Hedges yw pa mor agos ydyw at Gartref Nyrsio Brooklands, cartref gofal arbenigol i'r henoed sydd â chlefyd Alzheimer a dementia.  Mae'r pryderon dan sylw yn bennaf yn ymwneud â sŵn, arogl a mynediad i'r briffordd.  Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnal nifer o gyfarfodydd wyneb yn wyneb dros gyfnod o amser gyda chynrychiolwyr o Brooklands er mwyn deall eu pryderon ac ateb eu cwestiynau am y cyfleuster arfaethedig.

 

Mae'r Cyngor wedi ystyried y pryderon hyn yn ofalus iawn, ac wedi gwneud newidiadau i'r cynlluniau er mwyn sicrhau y bydd sŵn ac arogl y safle yn cael eu lleihau gymaint â phosibl, gan gynnwys cyflwyno dulliau atal sŵn.  Mae arbenigwyr wedi cael eu cyflogi er mwyn cynnal asesiadau ar y safle er mwyn mesur effaith y sŵn, ac mae’r rhain wedi profi bod yr effaith ddisgwyliedig yn ddibwys.  Ni fydd arogl yn broblem ar y safle oherwydd bydd unrhyw wastraff gweddilliol na fydd yn gallu cael ei ailgylchu yn cael ei gadw mewn cynwysyddion caeedig a fydd yn cael eu lleoli ym mhen pellaf y safle.

 

Yn ogystal â chyfarfod ag aelodau unigol y gymuned ar gais, trefnwyd arddangosfa wybodaeth gydag aelodau'r gymuned leol er mwyn ateb eu cwestiynau am y safle newydd arfaethedig yn New Hedges.  Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi cymryd camau er mwyn rhoi sicrwydd i'r gymuned leol o'r broses fanwl sydd wedi ei chynnal er mwyn dod o hyd i safle newydd a rhoi mesuriadau ar waith er mwyn sicrhau bod y safle yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar yr ardal gyfagos.

 

Ers datgan mai New Hedges yw'r safle dewisedig ar gyfer Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig newydd, mae unigolion wedi awgrymu safleoedd ychwanegol.  Mae’r rhain i gyd wedi cael eu hystyried yn ofalus gan Gyngor Sir Penfro yn erbyn y meini prawf, ond daethpwyd i'r casgliad eu bod i gyd yn anaddas, ac felly maent wedi cael eu diystyru.

 

O ganlyniad i'r gwaith asesu dwys a wnaed o'r safle, mae Cyngor Sir Penfro wedi dod i'r casgliad mai'r unig leoliad posibl ar gyfer Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig yw'r safle arfaethedig yn New Hedges.

 

 

Mae'r canlynol yn darparu atebion i'r cwestiynau sydd wedi cael eu codi:

 

Beth yw Canolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig a pha fath o wastraff a fydd yn cael ei drin yno?

Nid yw Canolfannau Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig yn safleoedd tirlenwi; maent wedi'u cynllunio'n benodol er mwyn ei wneud yn hawdd i'r cyhoedd ailgylchu a gwaredu eu gwastraff cyffredin bob dydd. Bydd y cyfleuster arfaethedig yn New Hedges wedi'i neilltuo ar gyfer gwastraff gweddilliol cyffredinol y cartref (gwastraff heb ddeunydd ailgylchadwy ynddo) a fydd yn cael ei gwasgu a'i storio mewn cynhwysydd caeedig wedi'i selio. Bydd hefyd yn derbyn deunyddiau a fydd yn cael eu hanfon i’w hailgylchu, fel caniau dur ac alwminiwm, gwastraff gwyrdd o’r ardd, papur, poteli gwydr, matresi, carpedi, eitemau trydanol fel teledyddion, a nwyddau gwynion fel oergelloedd a rhewgelloedd.  

 

Bydd y safle hefyd yn delio gyda deunyddiau cartref sy’n cael eu diffinio fel 'gwastraff peryglus'.  Mae’r rhain yn ddeunyddiau y byddech yn dod o hyd iddynt yn y cartref fel paent, olewau, tiwbiau fflworoleuol, batris a chynhyrchion eraill y cartref.

 

Pam y dewiswyd y safle yn New Hedges fel y lleoliad mwyaf ffafriol, does bosib nad oes safleoedd gwell ar gael yn y Sir?

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynnal asesiad manwl a thrylwyr o'r safleoedd posibl ledled De Ddwyrain y Sir, a'r safle yn New Hedges sydd wedi dod i'r amlwg fel y safle sydd fwyaf addas. Gellir cyrraedd y safle yn hawdd o'r A478, ac, yn bwysig iawn, mae’n ddigon mawr i gael ei ddylunio mewn ffordd a fydd yn lleihau unrhyw effaith ar eiddo gerllaw. Er enghraifft, bydd y sgip agosaf at drigolion gerllaw dros 100 metr oddi wrthynt.

 

Oni fydd y safle yn ddrewllyd ac yn denu fermin?

Na fydd. Bydd unrhyw wastraff gweddilliol sy'n dod i'r Ganolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig yn cael ei gywasgu a'i gadw mewn cynwysyddion wedi’u selio o dan ganopi, ac wedi'u lleoli mwy na 130 metr i ffwrdd o’r eiddo agosaf a dros 200 metr i ffwrdd o Gartref Nyrsio Brooklands. Bydd y cynwysyddion gwastraff yn cael eu cludo o'r safle sawl gwaith yr wythnos. Ar hyn o bryd mae gan safle Y Salterns yn Ninbych-y-pysgod tua 160 o gartrefi a 40 o garafanau o fewn 200 metr i'r cynwysyddion gwastraff gweddilliol ac nid yw wedi cael unrhyw gwynion ynglŷn â drewdod wrth drigolion cyfagos.  

 

Oni fydd yn hyll, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n byw gerllaw?

Na fydd; bydd y cyfleuster wedi'i ddylunio i fod yn ystyriol o'r amgylchedd. Bydd y ffordd fynediad at y safle a'r cynwysyddion gwastraff yno wedi'u gosod yn is na lefel y ffordd fel na ellir eu gweld o'r adeilad agosaf nac wrth y brif ffordd. Hefyd, bydd y mwyafrif o'r llwyni a'r coed sydd eisoes yno yn cael eu cadw yng nghynllun tirweddu’r cynnig.  Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys plannu coed a llwyni newydd fel na ellir gweld y safle o'r adeilad cyfagos nac o'r brif ffordd.

 

A fydd yn swnllyd?

Mae asesiadau manwl wedi'u cynnal gan arbenigwyr lefelau sŵn ar y safle.  Bydd y lefelau sŵn o’r cyfleuster yn is na’r sŵn cefndir cyfartalog sydd eisoes yn cael ei gynhyrchu gan draffig ar yr A478; y sŵn cefndir yw’r lefelau sŵn isaf sydd wedi cael eu cofnodi ar y safle. Bydd canol y ffordd fynediad i’r safle dros 50 metr i ffwrdd o’r cartref agosaf (Cartref Nyrsio Brooklands), lle mae canol yr A478, gyda’i thraffig swnllyd a chyflym ond 18 metr i ffwrdd o Brooklands.  Bydd y traffig a fydd yn cael mynediad i’r safle yn teithio’n araf, gan greu’r sŵn lleiaf posibl a bydd dyluniad y cyfleuster yn gweithredu fel rhwystr i unrhyw sŵn posibl. 

 

A fydd yn arwain at gynnydd sylweddol mewn traffig?

Ar hyn o bryd mae 9,900 o gerbydau ar gyfartaledd yn teithio ar hyd ffordd New Hedges ar yr A478 bob dydd. Bydd y datblygiad newydd yn golygu y bydd 340 o gerbydau’n ei defnyddio bob dydd, yn ogystal â 3 cherbyd nwyddau trwm (HGV) a fydd yn cymryd gwastraff o’r safle. Disgwylir i’r datblygiad newydd gynyddu’r traffig dyddiol ar gyfartaledd ar yr A478 i 10,586 o gerbydau ar hyd y llwybr New Hedges, a disgwylir y bydd effaith y traffig a ddaw yn sgil hynny yn ddibwys. Yn ogystal, rhagwelir y bydd lôn gerbydau’r A478 yn gweithredu ymhell o fewn ei chapasiti ar ôl agor y Ganolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig arfaethedig.

 

Sut bydd y cyfleuster newydd yn helpu i wella cyfraddau ailgylchu yn yr ardal?

Y safle amwynder dinesig presennol ar gyfer De Ddwyrain Sir Benfro yn Y Salterns, Dinbych-y-pysgod, yw’r safle gwaethaf o ran perfformiad yn y Sir ar hyn o bryd, gyda chyfradd ailgylchu o oddeutu 60%. Y rheswm dros hyn yw bod problemau mynediad i ddefnyddwyr, ac yn benodol, y ffaith y gall y defnyddwyr ond gael mynediad i nifer o’r cynwysyddion drwy ddringo grisiau i’w cyrraedd.  Mae’r diffyg lle sydd ar gael ar y safle hefyd wedi golygu na fu’n bosibl datblygu’r cyfleusterau ailgylchu fel y safleoedd eraill yn y Sir.

 

Bydd y cyfleuster arfaethedig newydd, o’r radd flaenaf yn New Hedges yn cynnwys yr ystod ehangaf posibl o opsiynau ailgylchu yn y Sir, sy’n gyfartal â Chanolfan Amwynder ac Ailgylchu Ddinesig Waterloo, Doc Penfro.  Bydd mynediad a diogelwch gwell i’r cyhoedd, newidiadau i ddulliau rheoli traffig ac ardaloedd ar wahân ar gyfer mannau gweithredol a chyhoeddus yn golygu y caiff y defnyddwyr brofiad gwell a chyfle i gasglu deunydd ailgylchu o ansawdd da.  Drwy ddarparu cyfleusterau gwell i drigolion De Ddwyrain Sir Benfro, rhagwelir y bydd y cyfraddau ailgylchu yn y cyfleuster newydd yn cynyddu i fod yn uwch na 70%.

 

Os hoffech gael gwybodaeth bellach neu os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y ddogfen hon, cysylltwch â Chyngor Sir Penfro ar 01437 764551 neu anfonwch neges e-bost at wastemanagement@pembrokeshire.gov.uk